Amodau a thelerau defnyddio’r wefan
Croeso i’n gwefan. Os byddwch yn parhau i bori a defnyddio’r wefan, byddwch yn cytuno i gydymffurfio ac i gadw at yr amodau a thelerau defnyddio canlynol sydd, ynghyd â’n polisi preifatrwydd, yn llywodraethu perthynas y Consortiwm Astudiaethau Rhywioldeb (y Consortiwm) gyda chi mewn perthynas â’r wefan hon. Os ydych yn anghytuno ag unrhyw ran o’r amodau a thelerau hyn, gofynnwn i chi beidio â defnyddio’n gwefan.
Mae’r term ‘[Consortiwm Astudiaethau Rhywioldeb]’ neu ‘ni’ yn cyfeirio at berchennog y wefan sydd â’i swyddfa gofrestredig yn [Y Consortiwm Astudiaethau Rhywioldeb: Coleg y Gyfraith a Throseddeg, Prifysgol Abertawe SA2 8PP]. Mae’r term ‘chi’ yn cyfeirio at y defnyddiwr neu’r unigolion sy’n edrych ar y wefan.
Mae eich defnydd o’r wefan hon yn amodol ar y telerau defnyddio canlynol:
• Mae cynnwys tudalennau’r wefan hon ar gael fel gwybodaeth gyffredinol ac at eich defnydd yn unig. Mae’n bosibl y gall newid yn ddirybudd.
• Mae’r wefan hon yn defnyddio briwsion er mwyn monitro eich dewisiadau pori. Os byddwch yn caniatáu i friwsion i gael eu defnyddio, efallai y bydd y wybodaeth bersonol ganlynol yn cael ei storio gennym ni, ond ni fydd yn cael ei defnyddio gan unrhyw drydydd parti.
• Nid ydym ni nac unrhyw drydydd parti yn darparu unrhyw warant ynghylch cywirdeb, amseroldeb, perfformiad, cyflawnder nac addasrwydd y wybodaeth a’r deunyddiau sydd ar y wefan hon at unrhyw ddiben penodol. Rydych yn cydnabod y gallai gwybodaeth a deunyddiau o’r fath gynnwys gwallau neu gamgymeriadau ac rydym yn benodol yn eithrio atebolrwydd am unrhyw gamgymeriadau neu wallau o’r fath i’r graddau llawnaf a ganiateir gan y gyfraith.
• Mae eich defnydd o unrhyw wybodaeth neu ddeunyddiau ar y wefan hon ar eich risg eich hunan, ac ni fyddwn yn atebol am hynny. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod unrhyw gynnyrch, gwasanaethau neu wybodaeth sydd ar gael drwy’r wefan hon yn bodloni eich gofynion penodol chi.
• Mae’r wefan hon yn cynnwys deunydd sy’n eiddo i ni, neu wedi’i drwyddedu i ni. Mae’r deunydd hwn yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, ddyluniad, cynllun, edrychiad, ymddangosiad a graffeg y wefan. Ni cheir ei atgynhyrchu heblaw yn unol â’r hysbysiad hawlfraint, sy’n ffurfio rhan o’r amodau a thelerau hyn.
• Mae pob nod masnach a atgynhyrchir ar y wefan hon, nad ydynt yn eiddo i’r gweithredwr, neu’n drwyddedig iddynt, wedi’u cydnabod ar y wefan.
• Gall defnyddio’r wefan hon heb awdurdod arwain at hawliad am iawndal a/neu gallai fod yn drosedd.
• O dro i dro, gall y wefan hon hefyd gynnwys dolenni at wefannau eraill. Darperir y dolenni hyn er hwylustod i chi i ddarparu gwybodaeth bellach. Nid ydynt yn golygu ein bod yn cymeradwyo’r wefan/gwefannau. Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol.
• Mae eich defnydd o’r wefan hon ac unrhyw anghydfod sy’n deillio o ddefnyddio’r wefan yn ddarostyngedig i gyfreithiau Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban.
Mae’r wefan hon yn gweithredu yn unol â chod ymddygiad y cytunwyd arno.
Fel ymwelydd â’r wefan, bydd modd i chi gyrchu gwybodaeth ac adnoddau.
Os byddwch yn ymaelodi â’r Consortiwm Astudiaethau Rhywioldeb, byddwch hefyd yn gallu defnyddio’r fforwm trafod i aelodau.
Dim ond aelodau o staff ac aelodau eraill o’r Consortiwm Astudiaethau Rhywioldeb fydd yn gallu gweld y negeseuon.
Cyn gadael unrhyw wybodaeth ar y wefan, mae’n rhaid i bob ymwelydd dderbyn amodau a thelerau y Consortiwm Astudiaethau Rhywioldeb.
Wrth adael gwybodaeth ar y wefan rydych yn cadarnhau eich bod:
1. Yn ymwybodol ac yn deall nodau ac amcanion y Consortiwm Astudiaethau Rhywioldeb (y Consortiwm); yn cytuno i’r Consortiwm ddefnyddio’r wybodaeth a ddarparwch er mwyn cyflawni nodau ac amcanion y Consortiwm;
2. Yn oedolyn cyfreithiol (dros 18 oed); yn ymwybodol o’r ffaith bod gennych yr hawl i dynnu gwybodaeth yn ôl ar unrhyw adeg ac nad oes gorfodaeth arnoch i ddarparu gwybodaeth.