Gwybodaeth at ddibenion gwybodaeth gyffredinol yw’r wybodaeth sydd ar y wefan hon. Mae’r wybodaeth yn cael ei darparu gan y Consortiwm Astudiaethau Rhywioldeb, ac er ein bod yn ceisio cadw’r wybodaeth yn ddiweddar ac yn gywir, nid ydym yn gwneud unrhyw ymhoniad na gwarant o unrhyw fath, drwy ddatganiad nac yn ymhlyg, am gyflawnder, cywirdeb, dibynadwyedd, argaeledd nac addasrwydd y wefan na’r wybodaeth, y cynnyrch, y gwasanaethau na’r delweddau cysylltiedig sydd ar y wefan at unrhyw bwrpas. Os byddwch yn dibynnu mewn unrhyw ffordd ar wybodaeth o’r fath, byddwch yn gwneud hynny yn gyfan gwbl ar eich risg eich hunan.
Ni fyddwn yn atebol am golled na difrod o dan unrhyw amgylchiad, gan gynnwys, yn ddigyfyngiad, golled neu ddifrod canlyniadol neu anuniongyrchol, nac unrhyw golled neu ddifrod yn codi o golli data neu elw sy’n codi drwy ddefnyddio’r wefan hon, neu yng nghyswllt ei defnyddio.
Drwy’r wefan mae modd i chi glicio ar ddolenni i wefannau eraill nad ydynt o dan reolaeth y Consortiwm. Nid oes gennym reolaeth dros natur, argaeledd na chynnwys y gwefannau hynny. Nid yw cynnwys unrhyw ddolenni yn golygu ein bod yn argymell nac yn cymeradwyo’r farn sy’n cael ei mynegi ar y gwefannau hynny o reidrwydd.
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wefan yn gweithio ac yn rhedeg yn esmwyth. Fodd bynnag, nid yw’r Consortiwm yn cymryd cyfrifoldeb, ac ni fydd yn atebol, am unrhyw achos pan na fydd y wefan ar gael dros dro oherwydd anawsterau technegol y tu hwnt i’n rheolaeth.
Rhybudd Hawlfraint Safonol
Hawlfraint y Consortiwm Astudiaethau Rhywioldeb: Ymchwil Arloesedd ac Ymarfer yw’r wefan hon a’i chynnwys – ⓗ Y Consortiwm Astudiaethau Rhywioldeb 2015. Cedwir pob hawl.
Gwaherddir ailddosbarthu neu atgynhyrchu’r cynnwys hwn – yn ei gyfanrwydd a rhannau ohono – mewn unrhyw ffurf, heblaw’r achosion canlynol:
• gallwch lwytho i lawr i ddisg galed neu argraffu rhannau at eich defnydd personol ac anfasnachol chi yn unig
• gallwch gopïo’r cynnwys i drydydd partïon unigol at eu defnydd personol nhw, ond dim ond os byddwch yn cydnabod y wefan fel ffynhonnell y deunydd
Ac eithrio pan fyddwch wedi cael ein caniatâd ysgrifenedig penodol, ni chewch ddosbarthu na defnyddio’r cynnwys yn fasnachol, na’i drosglwyddo na’i storio ar unrhyw wefan arall nac mewn unrhyw ffurf arall ar system adalw electronig.
Os oes gennych ymholiadau am hawlfraint yng nghyd-destun y Consortiwm, cysylltwch â ni: Y Consortiwm Astudiaethau Rhywioldeb: Ymchwil, Arloesedd ac Ymarfer, Ystafell 148, Adeilad Richard Price, Coleg y Gyfraith a Throseddeg, Prifysgol Abertawe, Parc Singleton, Abertawe, SA2 8PP.