Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn nodi sut mae’r Consortiwm Astudiaethau Rhywioldeb: Ymchwil, Arloesedd ac Ymarfer (y Consortiwm) yn defnyddio ac yn diogelu gwybodaeth y byddwch chi’n ei rhoi i’r Consortiwm drwy ddefnyddio’r wefan hon.
Mae’r Consortiwm wedi ymrwymo i sicrhau ei fod yn amddiffyn eich preifatrwydd. Os byddwn yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth y byddai modd eich adnabod gyda hi wrth i chi ddefnyddio’r wefan hon, yna gallwch fod yn sicr na fydd ond yn cael ei defnyddio yn unol â’r polisi preifatrwydd hwn.
Gall y Consortiwm newid y polisi hwn o dro i dro drwy ddiweddaru’r dudalen hon. Dylech ddod yn ôl i’r dudalen hon o dro i dro i wneud yn siŵr eich bod yn hapus gydag unrhyw newidiadau. Mae’r polisi hwn yn weithredol o 11 Tachwedd 2015.
Beth rydyn ni’n ei gasglu
Mae’n bosibl y byddwn yn casglu’r wybodaeth a ganlyn:
• Enw a/neu ffugenw.
• Manylion cyswllt gan gynnwys eich cyfeiriad e-bost.
• Gwybodaeth ddemograffig gan gynnwys eich cod post, ethnigrwydd, oed, crefydd, iechyd rhywiol, manylion am eich addysg a’ch cymwysterau, rhywioldeb a’ch diddordebau.
• Unrhyw wybodaeth arall sy’n berthnasol i’r Consortiwm.
Beth rydyn ni’n ei wneud gyda’r wybodaeth a gasglwn
Gofynnwn am y wybodaeth hon er mwyn deall eich anghenion ac er mwyn darparu gwasanaeth gwell i chi, ac yn benodol am y rhesymau a ganlyn:
• I gynorthwyo i gyrraedd nod y Consortiwm.
• I fonitro a gwella’r Consortiwm.
Diogelwch
Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod eich gwybodaeth yn ddiogel. Er mwyn atal datguddiad neu fynediad heb awdurdod, rydyn ni wedi rhoi ar waith weithdrefnau ffisegol, electronig a rheoleiddiol addas er mwyn diogelu ac amddiffyn y wybodaeth rydyn ni’n ei chasglu ar-lein.